Cefnogaeth dros y ffôn

illustration of a person with a headset

Gallwch gael cymorth dros y ffôn gan wirfoddolwr hyfforddedig, rhwng 3 ac 12am bob dydd.

Beth y gallwch ei ddisgwyl gan y gwasanaeth hwn?

Pan fyddwch yn ein ffonio, byddwn yn eich cysylltu â chefnogwr llinell gymorth hyfforddedig.

Bydd cefnogwr y llinell gymorth yn gwrando ac yn eich helpu i siarad am unrhyw fater yr ydych yn ei wynebu.

Bydd cefnogwr y llinell gymorth yn rhoi'r amser, y gefnogaeth a'r offer i chi i'ch helpu i symud ymlaen.

Mwy am y gwasanaeth yma

Am beth alla i siarad â chi?

Gallwch siarad â ni am unrhyw beth sy'n peri pryder neu ofid i chi. P'un ai a ydych yn chwilio am gymorth gyda’ch iechyd meddwl, eich astudiaethau, arian, tai neu berthnasoedd, rydym yma i wrando arnoch a’ch helpu i symud ymlaen.

Ydi’r gwasanaeth am ddim?

Ydy. Mae ein llinell gymorth ar gael drwy rif rhadffôn.

Ydy’r cymorth yn gyfrinachol?

Credwn fod gennych yr hawl i ddefnyddio ein gwasanaethau'n gyfrinachol, sy'n golygu bod yr hyn a ddywedwch yn aros gyda ni. Fodd bynnag, weithiau gallwn gysylltu ag asiantaethau neu sefydliadau eraill i gael help i chi, neu rywun arall.

Os byddwn yn cysylltu ag asiantaeth neu sefydliad arall byddwn bob amser yn ceisio gwneud hyn drwy roi gwybod i chi a chael caniatâd gennych. Byddem yn gwneud hyn heb eich caniatâd os credwn fod perygl difrifol o niwed i chi neu rywun arall.

Gallwch hefyd ddarllen sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chasglu a'i defnyddio i wella ein gwasanaeth.

Pryd mae ar agor?

Mae ein llinell ffôn ar agor 7 diwrnod yr wythnos rhwng 3pm ac 12am.

Pa fath o hyfforddiant a chefnogaeth mae’r gwirfoddolwyr yn eu cael?

Mae ein holl staff a gwirfoddolwyr yn cael 30 awr o hyfforddiant arbenigol, gan gynnwys modiwlau arbenigol ar reoli cyflyrau iechyd meddwl fel hunanladdiad a syniadau am hunanladdiad, pryder, iselder a hunan-niwedio.

Ydi’r gwasanaeth ar gael yn y Gymraeg?

Yn anffodus, nid yw’r gwasanaeth hwn ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd.