Mae am ddim ac yn gyfrinachol, ac wedi'i gynllunio'n benodol i gefnogi myfyrwyr. Gallwch siarad â gwirfoddolwr cymwys am beth bynnag rydych yn mynd drwyddo, os yw'n ymwneud â'ch hunaniaeth o ran rhywedd ai peidio.
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i unrhyw un sydd rhwng 19 a 25 oed.
Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei gyflwyno gan Mermaids, elusen sy’n cefnogi pobl ifanc trawsryweddol, anneuaidd a rhywedd-amrywiol a’u teuluoedd.
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
1. Cefnogaeth dros y ffôn i fyfyrwyr traws
Llinell ffôn gyfrinachol, am ddim ar gyfer myfyrwyr traws yn cael ei gweithredu gan wirfoddolwyr.
Mae ar agor rhwng 9am a 9pm, Llun – Gwener.
2. Cefnogaeth drwy we-sgwrs i fyfyrwyr traws
Gwe-sgwrs gyfrinachol, am ddim ar gyfer myfyrwyr traws yn cael ei gweithredu gan wirfoddolwyr.
Mae ar agor rhwng 9am a 9pm, Llun – Gwener.
3. Fforwm ar-lein penodol i fyfyrwyr traws
Gofod ar-lein diogel i rannu eich profiadau a chysylltu â phobl eraill sy’n mynd drwy bethau tebyg.