Oherwydd y coronafeirws, mae'n bosibl y bydd rhaid i chi hunanynysu yn ystod y flwyddyn academaidd yma. Er ei bod yn naturiol eich bod yn poeni am y posibilrwydd yma, bydd yr awgrymiadau canlynol yn eich helpu chi i fod yn barod i wneud y gorau o'r profiad yma.
Wrth reswm nid yw gorfod hunanynysu’n ddelfrydol. Ond bydd derbyn y realiti y bydd rhaid i chi hunanynysu efallai yn eich helpu chi i gynllunio ar ei gyfer a theimlo'n well amdano, os bydd yn digwydd.
Gall rhywfaint o baratoi syml wneud gwahaniaeth o ran sut rydych chi'n profi hunanynysu. Efallai y byddwch eisiau rhoi cynnig ar rai o'r camau sydd wedi’u rhestru isod.
7 cam i baratoi ar gyfer hunanynysu
1. Bod yn ymwybodol o’r canllawiau a’r polisïau
Dylai eich prifysgol fod â pholisi ynghylch hunanynysu. Gwnewch yn siŵr ei fod wedi ei gadw yn rhywle gennych fel eich bod yn gallu cyfeirio ato, os bydd angen i chi hunanynysu. Gwnewch yn siŵr hefyd eich bod yn ymwybodol o ganllawiau mwyaf cyfredol y llywodraeth.
2. Cofrestru gyda meddyg teulu
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi'ch cofrestru mewn meddygfa yn agos at ble rydych chi'n byw fel myfyriwr.
Os ydych chi wedi symud oddi cartref i fynd i'r brifysgol, mae angen i chi symud eich cofrestriad i feddygfa ger eich prifysgol. Fel arall, bydd yn anoddach cael gofal iechyd a phrofion pan fydd arnoch angen hynny.
3. Cadw manylion cyswllt pwysig
Cadwch fanylion cyswllt staff y brifysgol y gallai fod angen i chi eu hysbysu eich bod yn hunanynysu. Gall hyn gynnwys eich tiwtor neu adran academaidd, a thimau llety a lles.
4. Creu rhwydwaith o ffrindiau
Ewch ati i greu rhwydwaith o ffrindiau gyda'ch teulu, eich ffrindiau neu eich gofalwyr. Os oes angen i chi hunanynysu, dywedwch wrth eich rhwydwaith o ffrindiau. Gallwch chi gynllunio pryd byddan nhw'n gwneud yn siŵr eich bod chi’n iawn. Peidiwch â theimlo'n lletchwith yn gofyn, mae'r cyfan yn rhan o fyw mewn cymuned brifysgol yn ystod y flwyddyn academaidd yma!
Efallai y byddwch chi'n teimlo nad oes gennych chi unrhyw un sy'n ddigon agos atoch chi i greu rhwydwaith o ffrindiau. Fel arall, fe allech chi geisio creu grŵp cyfryngau cymdeithasol gyda myfyrwyr eraill yn eich prifysgol i gefnogi eich gilydd os bydd arnoch chi angen hynny.
5. Cynllunio ar gyfer cyflenwadau pwysig
Ceisiwch sicrhau bod gennych chi’r holl bethau y bydd arnoch eu hangen os bydd rhaid i chi hunanynysu. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
- cyflenwad o fwyd am 10 diwrnod,
- unrhyw feddyginiaeth dros y cownter a phresgripsiwn y bydd arnoch ei hangen,
- set lân o ddillad gwely a chyflenwad o ddillad glân os yn bosibl, oherwydd efallai na fydd cyfleusterau golchi dillad ar gael i chi.
Meddyliwch sut byddwch yn trefnu cyflenwadau ychwanegol o bethau y bydd arnoch eu hangen efallai yn ystod y cyfnod hunanynysu. Gall hyn fod drwy eich rhwydwaith o ffrindiau, neu efallai y bydd eich prifysgol yn gallu help
Os byddwch chi’n dechrau teimlo’n sâl
Os byddwch chi’n dechrau teimlo’n sâl, rhowch wybod i’ch rhwydwaith o ffrindiau a chysylltwch â gwasanaeth GIG 111 ar-lein am gyngor am y coronafeirws, neu gysylltu â’ch meddygfa am unrhyw bryderon iechyd eraill.
Pryd ddylech chi hunanynysu
Y symptomau sy'n dynodi bod gennych chi’r coronafeirws efallai ac sydd angen gweithredu yn eu cylch yw:
● Peswch newydd parhaus
● Tymheredd uchel
● Colli, neu newid yn eich synnwyr blasu neu arogli arferol.
Os oes gennych chi unrhyw rai o'r symptomau hyn bydd angen i chi hunanynysu ar unwaith, a chael prawf am y feirws.
Efallai y bydd eich prifysgol yn gallu trefnu prawf am ddim - fel arall ewch i gael prawf am ddim gan y GIG.