Poeni am ddychwelyd i’r brifysgol

Gareth Hughes

Gareth Hughes yw Arweinydd Clinigol Student Space ac mae'n seicotherapydd, ymchwilydd ac awdur ar lesiant myfyrwyr, gan gynnwys y llyfr Be Well, Learn Well.

Os ydych chi’n poeni am ddychwelyd i’r brifysgol ar ôl blwyddyn heriol, fe allai’r erthygl hon eich helpu chi i feddwl drwy rai o’r pryderon hynny.

O ganlyniad i’w profiad y llynedd, mae llawer o fyfyrwyr yn poeni am ddychwelyd i’r brifysgol eleni.

Mae’r pryderon hyn yn gwbl ddealladwy o ystyried effaith y pandemig ar fywyd myfyrwyr yn ystod y 18 mis diwethaf. Mae’n bosib eu bod yn cael eu dwysáu gan yr ansicrwydd parhaus ynglŷn â sut beth fydd y flwyddyn academaidd nesaf. Efallai eich bod yn meddwl tybed a fydd y profiad yn wahanol ac yn well.

Gall deall y pryderon hyn a llunio cynllun i fynd i’r afael â nhw eich helpu i reoli eich profiadau’n well. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle gorau posib i chi gael blwyddyn sy’n llawn mwynhad, hwyl a llwyddiant.

Pethau a allai fod yn eich poeni

Mae myfyrwyr wedi nodi nifer o feysydd penodol sy’n peri pryder iddyn nhw, ac efallai eu bod yn berthnasol i chi hefyd.

1. Bywyd cymdeithasol

Mae llawer o fyfyrwyr wedi dweud na chawson nhw brofiad cymdeithasol da y llynedd. Yn debyg i lawer ohonyn nhw, efallai eich bod chi’n teimlo nad ydych chi wedi llwyddo i ddod o hyd i’ch grŵp ffrindiau eto. Mae’n bosib eich bod wedi treulio mwy o amser ar eich pen eich hun na fyddai’n ddelfrydol, neu mewn swigen gymdeithasol fechan.

Y peth pwysig i’w gofio ydi bod cymaint o fyfyrwyr eraill wedi cael yr un profiad. Mae hynny’n golygu y byddan nhw hefyd yn chwilio am ffrindiau a grwpiau cymdeithasol newydd. Fe allwch chi deimlo’n hyderus am estyn allan a mabwysiadu agwedd weithredol at gyfarfod pobl newydd a gwneud ffrindiau.

Efallai y bydd ein herthygl ar fynd ati'n strwythuredig i wneud ffrindiau yn ddefnyddiol i chi.

2. Bylchau yn eich dysgu

Dydi gweithio ar-lein ddim i bawb. Mae llawer o fyfyrwyr yn adrodd am bryderon eu bod yn colli dysgu y bydden nhw wedi’i gael mewn blwyddyn flaenorol. Mae rhai’n poeni y bydd hyn yn effeithio ar eu graddau ac ar eu dyfodol.

Eto, mae’n bwysig cofio bod hyn yn rhywbeth sydd wedi effeithio ar y boblogaeth gyfan o fyfyrwyr. Mae prifysgolion a darlithwyr yn deall hyn ac yn cynllunio eu haddysgu yn unol â hynny.

Hefyd, fe allwch chi helpu eich hun drwy fanteisio ar y cymorth sydd o’ch cwmpas, fel y cymorth sgiliau astudio yn eich prifysgol, eich tiwtor, ac unrhyw adnoddau ar-lein ar blatfform dysgu eich prifysgol. Am y tro, gwnewch eich gorau i beidio â chanolbwyntio ar eich graddau, ond ar wella eich dysgu a’ch dealltwriaeth. Gydag amser, bydd y bylchau yn y cymorth a’r astudiaethau’n cael eu llenwi.

Hefyd, fe ddylai’r hyn rydych chi wedi llwyddo i’w wneud hyd yma roi hyder i chi. Os ydych chi wedi llwyddo i gadw at eich astudiaethau er gwaethaf yr holl darfu, mae’n rhaid eich bod yn fyfyriwr da gyda llawer o benderfyniad a sgiliau i syrthio’n ôl arnynt.

3. Ansicrwydd

Ar ôl goroesi blwyddyn gyfan o astudio yn ystod pandemig, mae pawb eisiau cael gwybod pryd fydd pethau’n mynd yn ôl i normal. Yn anffodus, dydyn ni ddim yn gwybod pryd fydd hynny’n bosib, felly efallai eich bod yn poeni y bydd eleni yn union yr un fath â’r llynedd.

Serch hynny, dydyn ni ddim yn yr un sefyllfa ac er nad oes modd rhag-weld beth sydd i ddod eleni, mae mwy o resymau i fod yn obeithiol wrth i’r rhaglen frechu symud ymlaen. Hyd yn oed os oes rhai cyfyngiadau ar waith o hyd ar ddechrau’r flwyddyn, gobeithio y gallwn ni edrych ymlaen at lacio’r rhain ar ryw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd.

Efallai y bydd yn help cofio eich bod eisoes wedi dangos eich bod yn gallu addasu i ansicrwydd a newidiadau enfawr, annisgwyl, dim ond drwy gyrraedd y pwynt hwn. Mae’r ffaith eich bod chi yma, yn astudio yn y brifysgol ac yn parhau i lunio eich dyfodol, yn brawf o’ch cryfder a’ch sgiliau. Beth bynnag fydd yn digwydd nawr, fe allwch chi ddefnyddio’r sgiliau a’r profiadau hyn i’ch helpu i ymateb.

Gwnewch eich gorau i ganolbwyntio ar yr hyn sydd yn sicr a chynllunio i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw.

4. Y campws yn anghyfarwydd o hyd

Mae llawer o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf wedi colli’r profiad arferol o fyw ar gampws prysur. Pan fyddwn yn wynebu pethau newydd, mae’n gwbl arferol bod ar bigau’r drain i raddau. Ond unwaith daw’r anghyfarwydd yn gyfarwydd, mae’r nerfau’n setlo’n ddigon buan ac rydyn ni’n dechrau teimlo’n gyfforddus yn ein hamgylchedd newydd.

Fe allwch chi helpu gyda hyn drwy fanteisio ar unrhyw gyfle a gewch chi i ddod i adnabod eich campws ychydig yn well. Efallai y bydd archwilio’r campws ar amser tawelach yn helpu – mae’n bosib y bydd pethau’n haws pan fydd llai o bobl o gwmpas a llai o fwrlwm yn tynnu eich sylw.

I gloi, cofiwch fod goroesi y llynedd wedi dangos bod gennych chi’r cryfder a’r gallu i ddelio â beth bynnag a ddaw eleni. Rhaid i chi ymddiried ynoch chi eich hun ac yn eich gallu, a chymryd camau cadarnhaol ymlaen i fod â chymaint o reolaeth â phosib. Bydd hynny’n rhoi’r cyfle gorau posib i chi gael blwyddyn well eleni.